Proserve Industrial Ltd (helpu busnes)
Mae’r brosiect Parciau Busnes Strategol Gogledd-ddwyrain Cymru sydd werth £1 miliwn yn helpu cwmnïau rwydweithio a rhannu adnoddau i ddatblygu eu gwasanaethau ac ennill mwy o fusnes.
Mae’r darparwr gwasanaethau, Proserve Industrial Ltd, yn elwa ar ei gysylltiad â chymuned fusnes sy’n tyfu fwyfwy, cysylltiad a gafodd ei feithrin â chefnogaeth cydgysylltwyr drwy brosiect Parciau Busnes Strategol Gogledd-ddwyrain Cymru.
Meddai Sam Arnold o Proserve Industrial Ltd:
Mae ein cydgysylltydd, Beci Morgan, wedi meithrin cymuned fusnes glôs ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam. Rydyn ni wedi elwa ar gael ein cyflwyno i gwmnïau cenedlaethol sy’n ystyried gweithredu yma, ac rydyn ni hefyd wedi llwyddo i feithrin perthynas allweddol â busnesau eraill ar yr ystad. Mae hyn wedi helpu Proserve i barhau i lwyddo.
