Swyddi cyfateb i weithwyr newydd (gwella sgiliau a hyffordidiant)
Mae’r gweithwyr newydd i gyd yn dod o’r ardal leol ac roeddent wedi cofrestru ar y fenter Paru Swyddi ar ôl cael anhawster dod o hyd i waith. Erbyn hyn maent yn dilyn cwrs hyfforddi 12 wythnos o hyd, sy’n cynnwys dysgu technegau inswleiddio, yn yr Academi Hyfforddi Gymunedol newydd yn Aber-big, ynghyd â phrofiad ymarferol o weithio ar dai yn yr ardal, dan oruchwyliaeth swyddogion hyfforddi’r cwmni.
Meddai un o’r rhai a recriwtiwyd, Alun Hill o Lynebwy:
“Yn y gorffennol, fe fues i’n gweithio yn y gwaith dur, yna’n gosod pibelli, ond rydw i wedi bod allan o waith ers tua blwyddyn a hanner erbyn hyn. Fe achubais ar y cyfle i wneud rhywfaint o waith adeiladu yn ddi-dâl dros y chwe mis diwethaf, ond mae’r cyfle yma gyda Mark Group wedi bod yn newyddion gwych. Mae’n waith llawn-amser, gyda hyfforddiant yn y swydd a thîm grêt o gydweithwyr. Mae’n wych.”
