Skip to content

JEREMIE (helpu busnesau)

JEREMIE (helpu busnesau)

cwmni Biotechnoleg Alzeim

Mae’r gronfa £150 miliwn JEREMIE (Cyd-adnoddau Ewropeaidd ar gyfer Busnesau Micro i Ganolig) yn helpu busnesau i dyfu.

O dan reolaeth Gwerth Cymru caiff y gronfa ei chefnogi gan fenthyciad Banc Buddsoddi Ewrop a £65 miliwn gan Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Mae cwmni Biotechnoleg Alzeim ar fin cynhyrchu mwy o Galanthamine – a ddefnyddir i drin Clefyd Alzheimer – ar ôl cael buddsoddiad gan Gwerth Cymru.

Meddai Kevin Stephens, y Rheolwr Gyfarwyddwr:

“Mae Alzeim yn canolbwyntio ar gynhyrchu ffynhonnell naturiol gynaliadwy a chost-effeithiol ar gyfer Galanthamine, y gellir ei defnyddio i helpu miloedd o bobl sy’n dioddef o Glefyd Alzheimer. Mae buddsoddiad diweddaraf Gwerth Cymru o gronfa JEREMIE wedi cefnogi’r broses o ddatblygu’n cynnyrch a’n strategaeth masnacheiddio.”