FSG Tool and Die Cyf. (helpu busnesau)
Dechreuodd FSG Tool and Die, busnes dylunio a gweithgynhyrchu offer o Lantrisant, brofi gostyngiad yn eu gwerthiannau ar ddechrau'r dirwasgiad byd-eang. Maent yn arbenigo mewn nwyddau fel offer gwasgu a mowldiau chwistrelli ar gyfer y farchnad fodurol, feddygol a phecynnu, ac maent wedi bod yn darparu nwyddau o ansawdd uchel ers dros ddeugain mlynedd. Gyda thraean o refeniw y cwmni'n dod o'r sector modurol, roedd yn ergyd drom pan gyhoeddodd dau o gwsmeriaid mwyaf y cwmni eu bod yn cau. Un o'r blaenoriaethau, yn ôl y Rheolwr Gyfarwyddwr Gareth Jenkins, oedd cadw 75 aelod o staff a 10 o brentisiaid mewn gwaith.
Meddai:
Roedd yn rhaid inni gwtogi ar y busnes er mwyn cyfateb i'r rhagolwg o ran gwerthiannau, a cheisiodd ProAct gadw'r niferoedd hyn mor isel â phosib. Fe wnaeth ProAct bethau'n haws inni barhau i dalu staff am 5 diwrnod yr wythnos pan oedd y gwaith yn brin gan fod hynny'n caniatáu inni gynnal hyfforddiant ar y dyddiau nad oedd angen y staff.
Roedd y cymhorthdal hyfforddiant yr un mor bwysig gan fod modd inni droi ein golygon at ddatblygu nwyddau newydd a datblygu ein gweithlu. Mae hyn wedi ein galluogi ni i ddechrau datblygu syniadau a allai o bosib fod yn weddol broffidiol yn y dyfodol.
Mae ProAct yn helpu cwmnïau i ymateb yn gyflym i anghenion sgiliau gweithwyr sydd mewn perygl o golli'u swyddi neu orfod lleihau eu horiau gwaith.
