Richard Bevan (raising skills and training
Roedd gan Richard broblemau iechyd a phersonol a oedd yn ei gwneud yn anodd iddo ganolbwyntio yn yr ysgol. Er gwaethaf yr anawsterau hyn, cafodd bedair TGAU ond methodd gwblhau cwrs yn y coleg.
Ac yntau wedi digalonni'n llwyr, clywodd Richard am gynllun peilot Studio 34 – canolfan ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy'n cynnig dysgu achrededig mewn amgylchedd anffurfiol. Gyda chymorth hyfforddwr dysgu, cafodd yr help yr oedd ei angen arno i roi ei fywyd yn ôl ar y trywydd iawn a dilyn ei uchelgais ar gyfer ei yrfa drwy gwrs Cyfryngau Rhyngweithiol. Mae'n bwriadu dechrau Diploma Cenedlaethol yn y pwnc hwnnw yng Ngholeg Pen-y-bont fis Medi nesaf.
Dywedodd Richard fod Pre-VENT wedi newid ei fywyd ac yn debygol o wneud gwahaniaeth i ragor o bobl fel yntau.
Dywedodd:
“Cynigiodd Studio 34 le diogel imi ddysgu gyda chymorth. Roedd yn rheswm imi godi yn y bore. Mae'r athrawon a'r Hyfforddwr Dysgu wedi fy helpu i ddefnyddio fy egni yn adeiladol a chanolbwyntio ar rywbeth cadarnhaol sy'n arwain at gymhwyster.
"Mae hyn wedi fy helpu i anghofio’r gorffennol ac i ganolbwyntio ar y presennol a'r dyfodol. Dw i wedi meithrin perthynas dda â’r myfyrwyr a’r tiwtoriaid, ac mae gen i lwybr dysgu nawr a fydd, gobeithio, yn fy arwain at swydd dda a bywyd gwell."
Mae Pre-VENT, sy'n targedu pobl 14 i 19 oed, yn cael cymorth dros £8 miliwn o Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Bydd y rhaglen yn darparu pecyn o gymorth a hyfforddiant ar gyfer tua 8,000 o bobl ifanc mewn ysgolion a lleoliadau eraill.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy'n arwain y prosiect gan gydweithio â chynghorau Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful a Thorfaen, a cholegau addysg bellach yn yr ardal, i godi lefel dyheadau a mynd i'r afael â'r ffactorau sy'n rhwystro rhai pobl ifanc rhag dysgu.
Bydd Pre-VENT yn datblygu gwaith Studio 34 i gyflwyno cymorth, gan gynnwys hyfforddwyr dysgu, i ragor o bobl ifanc. Bydd hefyd yn cynnig gwasanaethau tebyg ar draws y pum awdurdod lleol arall dros y tair blynedd nesaf.
