Skip to content

Melissa Burns (gwella sgiliau a hyfforddiant)

Melissa Burns (gwella sgiliau a hyfforddiant)

Melissa Burns

Mae'r prosiect Cenedl Hyblyg, sy'n werth £12.5 miliwn ac yn cael ei gynnal gan Chwarae Teg, wedi helpu Melissa Burns o Glydach i fachu ei gyrfa ddelfrydol.

Nod y prosiect Cenedl Hyblyg, sy'n cael cymorth £8.5 miliwn o Gronfa Gymdeithasol Ewrop, yw hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol a datblygiad gyrfa a chyfrannu at gau'r bwlch cyflog yn y farchnad lafur drwy annog a helpu menywod i gyflawni eu potensial yn y gweithle.

Ar ôl blynyddoedd o ddysgu aerobeg yng Nghanolfan Hamdden Pontardawe yn Abertawe, penderfynodd Melissa ei bod am gael her newydd i ddatblygu ei sgiliau rheoli. Cymerodd ran yn rhaglen Esgyniad y prosiect Cenedl Hyblyg a arweiniodd at ddyrchafiad a'i gyrfa ddelfrydol.

Fel rhan o'r rhaglen, canolbwyntiodd Melissa ar ddatblygu ei sgiliau arwain tîm a chyfathrebu a chafodd ragor o wybodaeth am faterion cyflogaeth a sut i reoli amser pobl eraill.

Ar ôl cwblhau'r rhaglen Esgyniad, cafodd Melissa swydd fel cyd-gysylltydd stiwdio. Erbyn hyn, mae'n gyfrifol am gyd-gysylltu 82 o ddosbarthiadau ffitrwydd wythnosol mewn naw canolfan hamdden, yn ogystal â rheoli rhwydwaith o 20 hyfforddwr ar eu liwt eu hunain. Mae Melissa hefyd yn arwain y gwaith o gyflwyno datblygiadau a dosbarthiadau ffitrwydd newydd i'r canolfannau.

Dywedodd:

"Neidiais am y cyfle i gymryd rhan yn Rhaglen Esgyniad Cenedl Hyblyg, a oedd yn cwmpasu llawer o'r meysydd a'r sgiliau craidd yr oedd angen imi eu datblygu.

"Mae'r rhaglen wedi fy helpu i wireddu fy uchelgeisiau ac erbyn hyn dw i'n cael cyfrannu at y strategaeth fusnes gyffredinol ar gyfer y ganolfan chwaraeon."