Skip to content

Asesu Effaith ar Gydraddoldeb Hiliol a Chydraddoldeb i Bobl Anabl yn y Dwyrain

Asesu Effaith ar Gydraddoldeb Hiliol a Chydraddoldeb i Bobl Anabl yn y Dwyrain

Adroddiadau cryno ar adolygiad DTZ o ddeunydd a'r digwyddiadau ymgynghori a gynhaliwyd fel rhan o'r Asesiadau, sy'n adolygu darpariaethau gweithredu Rhaglenni Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a Chronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) yn y Dwyrain.

Dogfennau ar gyfer unrhyw un sy'n ymwneud â datblygu neu asesu Prosiectau’r Cronfeydd Strwythurol yw’r adroddiadau cryno, a’u diben yw helpu i nodi sut gallai'r Rhaglenni gynorthwyo pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl a sicrhau bod cymorth Cronfeydd Strwythurol Ewrop ar gael i bawb yng Nghymru.

Er mwyn sicrhau nad yw’r dogfennau yn rhy hir, sy’n adlewyrchu un o gasgliadau’r ymchwil, nid yw ffynonellau’r deunyddiau y cyfeirir atynt yn adolygiad DTZ wedi’u cynnwys yn yr adroddiadau cryno. Ceir cyfeiriadau llawn yn y prif adroddiadau.

Cynhaliwyd y digwyddiadau ymgynghori ynghylch yr Asesiadau gan WEFO gyda chymorth Cyngor Cydraddoldeb Hiliol y Cymoedd a phartneriaid perthnasol sy’n anabl/yn bobl dduon ac o leiafrifoedd ethnig neu sy'n cynrychioli'r bobl hynny o bob rhan o Gymru. Cynhaliwyd y digwyddiadau hyn yng Nghaerdydd, y Cymoedd, y Canolbarth a'r Gogledd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2008.

Lawrlwytho Dogfen

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.