Skip to content

Datblygu eich prosiect

Datblygu eich prosiect

Canolfan Nant Gwrtheyrn

Mae'r cynllun busnes manwl a gyflwynir gan y noddwyr yn rhan bwysig o'r cam 'datblygu prosiect' neu 'asesu manwl' gan ei fod yn rhoi rhagor o wybodaeth gynhwysfawr i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) am eich prosiect arfaethedig ac yn ein helpu i ddod i benderfyniad ynglŷn â chyllid.

Mae'r adran hon yn rhoi gwybodaeth i noddwyr sydd â'u prosiect arfaethedig neu eu Datganiad Diddordeb mewn cyllid Ewropeaidd wedi'i dderbyn gan WEFO ar gyfer y cam 'datblygu prosiect' neu 'asesu manwl'.

Cewch Swyddog Datblygu Prosiectau WEFO i'ch helpu, gam wrth gam, trwy'r broses bwysig hon o  ddatblygu eich prosiect.

Rydym hefyd wedi paratoi amryw o ganllawiau a allai fod yn berthnasol i chi wrth ddatblygu eich prosiect, e.e. y defnydd o gostau anuniongyrchol a'r defnydd o'r cyfleuster hyblygrwydd, a chyllid cyfatebol mewn da. Mae hefyd yn hollbwysig bod eich cynllun busnes yn cynnwys manylion ar sut y bydd eich prosiect yn ymgorffori themâu cyffredin y Rhaglenni, sef Cyfleoedd Cyfartal a Chynaliadwyedd Amgylcheddol.

Bydd eich Swyddog Datblygu Prosiectau a/neu'ch cyswllt yn y Tîm Gofodol Ewropeaidd yn gallu egluro a thrafod unrhyw ymholiadau gyda chi er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni gofynion WEFO a'r UE wrth ddatblygu eich prosiect.

Dolenni perthnasol

Mae’r dogfennau cyfarwyddyd wedi cael eu datblygu i helpu noddwyr gynllunio eu prosiectau yn gytûn a rheoliadau Ewropeaidd a meini prawf arall.