Skip to content

Rhoi cyhoeddusrwydd i’ch prosiect

Rhoi cyhoeddusrwydd i’ch prosiect

Yn unol â gofynion gwybodaeth a chyhoeddusrwydd yr UE, y mae’n hanfodol ein bod yn hyrwyddo'r hyn y mae rhaglenni’r cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn ei gyflawni yng Nghymru.

Rhoi cyhoeddusrwydd i’ch prosiect

Mae hyrwyddo’r cymorth y mae’ch prosiect yn ei dderbyn gan Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd i’r cyhoedd, i’ch staff a’ch buddiolwyr yn un o amodau allweddol y grant (Rheoliadau Ewropeaidd CE Rhif 1083/2006). O’r cychwyn cyntaf, gall WEFO eich helpu i fodloni gofynion y Comisiwn Ewropeaidd: drwy eich helpu i baratoi eich datganiadau i’r wasg a threfnu ymweliadau gan Weinidogion a digwyddiadau lansio swyddogol, ynghyd â’ch cynghori o ran defnyddio logos, placiau coffa, hysbysfyrddau, papur â phennawd a deunydd cyhoeddusrwydd arall yn gywir.

Darllenwch y Canllawiau ar Wybodaeth a Chyhoeddusrwydd 2007-2013 (sy’n seiliedig ar ofynion Rheoliadau’r CE) er mwyn eich helpu i hyrwyddo’r cymorth yr ydych yn ei dderbyn gan Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn effeithiol, gan gynnwys defnyddio Logos yn gywir.

Datganiadau i’r wasg

Os ydych yn paratoi datganiad i’r wasg, neu os hoffech i ni fynd ati i lunio datganiad i’r wasg ar eich rhan ar gyfer digwyddiad neu achlysur lansio prosiect, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl er mwyn i fedru’ch cynghori ar y gofynion o ran cydnabod cymorth gan arian Ewropeaidd, ynghyd â threfnu dyfyniad gan Weinidog neu fod Gweinidog yn bresennol yn y digwyddiad arfaethedig, os yw hynny’n briodol.

Gwefannau a chylchlythyrau

Hoffem gynnwys newyddion a lluniau sy’n berthnasol i’ch prosiect ar wefan WEFO, ac yn EU4U, ein cylchlythyr allanol a gyhoeddir bob yn ail fis, ynghyd â’u cynnwys mewn deunydd cyhoeddusrwydd arall gan gynnwys taflenni gwybodaeth.

Dolenni perthnasol

I sicrhau fod mesurau gwybodaeth a chyhoeddusrwydd yn cael eu hintegreiddio’n llawn i mewn i drefniadau ar gyfer cyflawni prosiectau
Datganiadau i'r wasg diweddaraf or Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr am y newyddion a gwybodaeth am Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru.