Ymweliadau Arolygu a Gwirio Prosiectau
Yn ystod cylch oes prosiect, bydd Tîm Arolygu a Gwirio Prosiectau (PIV) Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn ymweld â'ch prosiect i gael cipolwg gwerthfawr ar y ffordd y mae'n cael ei weithredu a'i reoli ac i rannu'r arfer gorau.
Yn benodol, bydd yr ymweliad yn helpu i:
- gadarnhau bod y prosiect yn cydymffurfio â Rheoliadau'r Comisiwn Ewropeaidd a'r amodau sydd ynghlwm wrth gynnig arian yr Undeb Ewropeaidd;
- cloriannu’r ffordd y mae'r systemau rheoli yn cael eu cymhwyso'n ymarferol, yn ogystal â pha mor effeithiol ydynt;
- sicrhau bod y prosiect yn cydymffurfio â'r cynnwys, fel y cytunwyd yn y llythyr cais / cymeradwyo, a'i fod yn gwneud cynnydd fel y nodwyd yn y cais diwethaf am daliad;
- cadarnhau bod digon o arian ar gael ar gyfer cydariannu'n genedlaethol;
- nodi problemau posibl mor gynnar â phosibl ac awgrymu mesurau ar gyfer gwella;
- nodi elfennau llwyddiannus y prosiect ar gyfer eu defnyddio o bosibl yn neunydd cyhoeddusrwydd WEFO, ac er mwyn rhannu'r arfer gorau;
- sicrhau bod y gwariant sy'n cael ei godi yn erbyn y prosiect yn real, cyson a chymwys;
- sicrhau bod trywydd archwilio tryloyw llawn yn cael ei gynnal, sy'n cynnwys cadw dogfennau ategol.
14/08/09
Gan gynnwys rhestr gyfeirio ar gyfer ymweliadau Ymweliadau Arolygu a Gwirio Prosiectau (PIV), i'ch helpu gyda'r broses gynllunio cyn yr ymweliad.
