Sut y caiff prosiectau eu dethol i'w harchwilio?
Rydym yn dwyn ynghyd y pedair Rhaglen Weithredol yng Nghymru ac yn dadansoddi'r holl hawliadau a delir gan WEFO ymhob blwyddyn galendr. Mae hyn yn creu casgliad o brosiectau gan ddefnyddio technegau dethol ar hap (nid yw unrhyw brosiectau yn fwy tebygol nag eraill o gael eu dethol, beth bynnag y bo eu maint neu beth bynnag y bo nodweddion eraill y prosiect).
Rydym yn ategu'r hapsampl hwn drwy gynnal archwiliadau o'r holl brosiectau sy'n cyflwyno hawliadau gwerth uchel (diffinnir 'gwerth uchel' fel hawliad gwerth dros 2% o'r gwariant blynyddol y mae WEFO yn ei ddatgan i'r Comisiwn Ewropeaidd am holl raglenni'r Cronfeydd Strwythurol).
Efallai y byddwn hefyd yn dethol prosiectau ychwanegol i'w harchwilio mewn ymateb i ffactorau risg penodol neu ddiffyg sylw i fath arbennig o brosiect.
