Skip to content

Tîm Archwilio Cronfeydd Ewropeaidd

Tîm Archwilio Cronfeydd Ewropeaidd

Yn gyfrifol am ymgymryd ag ymweliadau i fonitro'r Mesurau Rheoli Ariannol fel rhan o archwiliadau annibynnol o brosiectau sy'n derbyn cymorth gan raglenni cyfredol a blaenorol y Cronfeydd Strwythurol er mwyn sicrhau bod systemau rheoli'r rhaglenni'n gweithredu'n foddhaol.

Nod yr archwiliad yw sicrhau bod y gwariant a hawlir yn gymwys ac y cydymffurfiwyd â holl reoliadau perthnasol y Comisiwn Ewropeaidd ac â rheolau Cymru.

Dyma brif amcanion yr archwiliad:

  • sicrhau bod systemau rheoli a rheolaeth ariannol mewn lle;
  • rhoi prawf ar y modd y defnyddir y systemau a'u hefeithiolrwydd;
  • gwirio bod y prosiecau'n cyd-fynd â'r disgrifiadau a roddir ar eu cyfer yn y ceisiadau am grant;
  • cadarnhau bod y grant yn cydymffurio â'r amodau a chadarnhau bod y grant wedi cael ei ddefnyddio yn unol â llythyr cadarnhau'r prosiectau;
  • sicrhau bod y gwariant sydd wedi'i godi yn erbyn y prosiect yn:
    • union (h.y. mae'r gwariant a wnaed cais amdano wedi codi ac wedi cael ei dalu);
    • yn rheolaidd (h.y. darparwyd y prsoect yn unol â'r Rhaglen Weithredol ac roedd y gwariant y gwnaed cais amdano yn berthnaosl i'r prosiect);
    • yn gymwys (h.y. wedi codi yn erbyn y gweithgareddau darparu cymwys yn ystod y cyfnod cymeradwyo).

Beth i'w ddisgwyl oddi wrth ymweliad archwilio

Mae'r ymweliad archwilio yn cynnwys arolygiad manwl o'r dogfennau perthnasol a, lle y bo'n berthnasol, wiriad ffisegol o'r gwaith sy'n mynd rhagddo.

Dylai staff allweddol o'r prosiect, gan gynnwys y rheolwr prosiect a'r rheolwr cyllid, fod ar gael i ddisgrifio'r prosiect a'i gefndir, ac egluro unrhyw newidiadau a allai fod wedi digwydd yn ystod oes y prosiect.  Ar ôl hyn bydd yr archwilwyr yn canolbwyntio ar feysydd perthnasol, gan gynnwys caffael, cymhwystra gwariant, cyhoeddusrwydd, allbynnau, themau trawsbynciol, arian cyfatebol, cofnodion buddiolwyr (Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn unig), a chontractau a gweithdrefnau dan gontract.

Yn dilyn yr ymweliad bydd y Tîm Archwilio Arian Ewropeaidd yn llunio adroddiad ar ganfyddiadau'r ymweliad.