Skip to content

Arolygiadau ac archwiliadau prosiect

Arolygiadau ac archwiliadau prosiect

Project inspection visits and audits ensure your project is being delivered in line with EC regulations and for the benefit of Wales.

Yn ystod cylch oes eich prosiect, bydd Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn cynnal cyfarfod cychwynnol ac adolygiadau chwarterol o’r prosiect, ac yn archwilio hawliadau am daliadau. Bydd hefyd yn cynnal ymweliad i arolygu’r prosiect er mwyn helpu i ddatrys unrhyw broblemau gweithredu a rheoli a allai godi.

Y prif reswm am yr ymweliadau archwilio a’r archwiliadau o’r prosiect yw rhannu arfer da a sicrhau bod eich prosiect:

  • yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Ewropeaidd ac amodau’r grant
  • yn gweithredu systemau rheoli effeithiol
  • yn sicrhau trywydd archwilio sy’n hollol dryloyw, gan gynnwys cadw dogfennau ategol

Tîm Archwilio Cronfeydd Ewropeaidd

Yn ogystal, yn unol â’r Rheoliadau Ewropeaidd, cynhelir archwiliadau monitro a rheoli ar sampl o brosiectau gan Tîm Archwilio Cronfeydd Ewropeaidd adran gyllid Llywodraeth Cymru, sy’n gweithredu fel yr Awdurdod Archwilio ar ran y Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru. Ceir manylion am swyddogaethau'r Awdurdod Archwilio yn Erthygl 62 o reoliad 1083/2006.