Skip to content

Cyflawni’ch prosiect

Cyflawni’ch prosiect

Derbyniodd Brian Owen o Owen Electrical gymorth i ddechrau ei fusnes

Os ydych yn llwyddo i gael arian Ewropeaidd ar gyfer eich prosiect, bydd llythyr cymeradwyaeth WEFO yn pennu’r gofynion o ran cyflawni ar gyfer eich prosiect sy’n derbyn arian gan yr UE.

Unwaith y bydd eich prosiect wedi sicrhau arian Ewropeaidd, bydd y swyddog cyswllt o WEFO a / neu eich Tîm Ewropeaidd Gofodol (SET) yn parhau i weithio gyda chi er mwyn sicrhau bod eich prosiect yn cyflawni yn unol â’r gwariant a’r proffiliau allbwn y cytunwyd arnynt, ynghyd â gofynion eraill WEFO a’r UE. 

I ddechrau’r broses bydd WEFO yn trefnu cyfarfod cychwynnol i drafod y ffordd orau i chi gyflawni, monitro, gwerthuso a thynnu sylw at eich prosiect, ynghyd â rhoi cyngor ar y posibilrwydd o gaffael gweithgareddau cyflawni’r prosiect a chyflwyno ceisiadau am dâl. Ategir y cyfarfod cychwynnol gan adolygiadau chwarterol ar eich prosiect, ynghyd ag arolygiad o’r prosiect yn ystod bywyd y prosiect.

Rydym hefyd wedi llunio cyfres o ganllawiau i’ch helpu i gyflawni’ch prosiect yn effeithiol, ynghyd â sut i wneud cais a pa bethau y dylech eu gwneud i baratoi ar gyfer yr arolygiad.