Cyfleoedd tendro a chaffael y prosiectau a gymeradwywyd
Gall sefydliadau yng Nghymru elwa ar arian Ewropeaidd drwy wneud cais i gyflenwi gweithgareddau'r prosiectau a ariennir gan yr UE.
Mae data fel y dengys ar 31 Mai 2013 yn dangos bod cyfanswm yr hyn a amcangyfrifwyd o ran gweithgaredd caffael wrth ddarparu prosiectau cymeradwy yn werth £1.2 biliwn. Mae prosiectau caffael sydd wedi eu cwblhau wedi dyrannu cytundebau gwerth £905 miliwn i sefydliadau, ac o hyn y mae £530 miliwn (59% o werth y contract) i’r sector breifat a £155 miliwn (17%) i’r trydydd sector.
Hysbysiadau ar wefan GwerthwchiGymru
I weld bob hysbysiad am brosectiau sy’n cael eu hariannu gan yr UE gan gynnwys hysbysiadau cynnar, gwahoddiadau i weithdai a gwybodaeth ddefnyddiol arall dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer chwilio ar wefan GwerthwchiGymru (dolen allanol): Dewisiwch Chwilio Hysbysiadau ac yna'r glust ‘Chwilio Cymhleth’; dewisiwch "Math o hysbysiad" a nodwch "All", dewiswch "Statws", "All" ac atebwch "yes" i "A ariennir yr hysbysiad hwn gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru"I weld hysbysiadau byw yn unig, dilynwch y cyfarwyddyd uchod ond dewiswch statws "Live".
