Skip to content

Cronfa Arian Cyfatebol a Dargedir

Cronfa Arian Cyfatebol a Dargedir




Cronfa sy'n cynnig y cyfle olaf i brosiectau'r UE yw’r Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir (TMF) ac mae wedi rhoi arian cyfalaf a refeniw i nifer o wahanol gynlluniau sydd o dan arweiniad sefydliadau o bob sector.

Mae cronfa Arian Cyfatebol a Dargedir Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £102 miliwn o Arian Cyfatebol a Dargedir i 34 o brosiectau'r UE sydd werth £425 miliwn.

Gwneud cais i’r Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir

Noder: Yn dilyn Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant ym mis Hydref 2010, bu'n rhaid i'r datganiad ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar 17 Tachwedd adlewyrchu gostyngiadau sylweddol mewn cyfalaf. Mae'r TMF felly wedi'i ostwng.

Ni ellir derbyn rhagor o geisisdau TMF am gymorth cyfalaf ond gellir gwneud cais o hyd am gymorth refeniw TMF. Caiff y ceisiadau am gymorth refeniw eu hystyried ar yr un pryd â'r Cronfeydd Strwythurol cysylltiedig.

I wneud cais am gymorth refeniw oddi wrth y TMF:

  1. Cronfa pan fetha popeth arall yw’r TMF; felly bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod wedi cymryd pob cam posibl i gael arian cyfatebol o ffynonellau eraill cyn troi at y TMF.
  2. Rhaid cysylltu â’ch Swyddog Datblygu Prosiect perthnasol yn WEFO cyn gwneud cais;
  3. Rhaid sicrhau eich bod yn darllen canllawiau cyffredinol TMF a'r Graddau Blaenoriaethu gwahanol ar gyfer y Themau.
  4. Rhaid sicrhau eich bod yn darllen canllawiau cais TMF cyn llenwi ffurflen gais TMF;
  5. Os yw’ch cais TMF yn llwyddiannus, bydd eich Swyddog Datblygu Prosiect yn WEFO yn anfon llythyrau atoch yn cadarnhau’r cyfanswm a ddyfarnwyd, y proffil gwariant a thelerau ac amodau cysylltiedig y grant TMF.

Gwybodaeth bellach

I gael mwy o wybodaeth am wneud cais i’r TMF, cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Prosiect perthnasol yn WEFO drwy Linell Gymorth WEFO.

Y Gronfa Arian Cyfatebol A Dargedir - Ffurflen Gais

15/06/09
Gofynnir i chi ddychwelyd y ffurflen gais, wedi’i llofnodi, at y Swyddog Datblygu Prosiectau (SDP) yn WEFO sy’n gyfrifol am y cais cyfatebol i Gronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd.
 

Argymhellion Ynghylch Blaenoriaeth Mynediad At TMF

15/06/09
Mae’r graddau blaenoriaethu ar gyfer y themâu wedi’u cymeradwyo ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid. Maent yn adlewyrchu’r galw a ddisgwylir ar y Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir, sef y gronfa pan fetha popeth arall, ar ôl asesu’r ffynonellau cyllid eraill sydd ar gael i gefnogi gweithgarwch o dan y ...
 

Amodau grant y Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir yng nghyswllt prosiectau Rhaglenni Cydgyfeirio a Chystadleurwydd Rhanbarthol a Chyflogaeth

15/06/09
Amodau grant y Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir yng nghyswlltprosiectau Rhaglenni Cydgyfeirio a Chystadleurwydd Rhanbarthol aChyflogaeth
 

Y Gronfa Arian Cyfatebol A Dargedir - Canllawiau I Ymgeiswyr Ar Gyfer Rhaglenni Cydgyfeirio A Chystadleurwydd Rhanbarthol A Chyflogaeth

15/06/09
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu’r Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir (TMF) er mwyn darparu arian cyfatebol canolog, fel cronfa pan fetho popeth arall, ar gyfer Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2007-13. Bydd TMF yn darparu cyllid cyfalaf a refeniw ac mae ar gael i bob mudiad ym mhob sect ...
 

Canllawiau Ynghylch Llenwi Ffurflenni Cais Y Gronfa Arian Cyfatebol A Dargedir Ar Gyfer Rhaglenni Cydgyfeirio A Chystadleurwydd Rhanbarthol A Chyflogaeth

15/06/09
Nod y canllawiau yn y ddogfen hon yw helpu ymgeiswyr i lenwi ffurflen gais y Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir (TMF). Adolygir y wybodaeth a ddarperir yn y ffurflen gais ochr yn ochr ag unrhyw wybodaeth a dogfennau a gyflwynwyd i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) i gefnogi’r cais am Gronfeydd ...
 

Dolenni perthnasol

Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir Rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol