Skip to content

Organisation Name: Menter a Busnes

Organisation name: Menter a Busnes

  • Organisation core business: Datblygu economaidd ac ymgynghori busnes
  • What will the project do?: Nod y prosiect yw hybu adfywiad 5 canol tref ar draws ardal Gydgyfeirio sydd wedi gweld cynnydd yn nifer y siopau gwag / adeiladau busnes o ganlyniad i'r dirwasgiad economaidd. Byddem yn annog adnewyddiad y canol trefi drwy gefnogi ac annog hunan-gyflogaeth fel opsiwn gyrfa i bobl ifanc ac unigolion sy'n anweithgar yn economaidd a'u bod yn defnyddio adeiladau busnes gwag yng nghanol y trefi. Bydd y prosiect yn adeiladu ar lwyddiant cynllun yng Nghaergybi a weithredir mewn partneriaeth â Chymunedau yn Gyntaf, i hyrwyddo hunan-gyflogaeth trwy ganiatau i unigolion allu treialu eu syniadau busnes a'r Cynllun Siopau Gwag; sydd wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn nifer yr eiddo busnes gwag yng nghanol y dref yn ystod y 12 mis diwethaf. Bydd y prosiect yn cyflawni ei nod drwy'r amcanion canlynol: Codi ymwybyddiaeth am hunangyflogaeth fel opsiwn gyrfa; Darparu cymorth busnes un i un wedi’i deilwra er mwyn caniatau i unigolion profi eu syniadau busnes am gyfnod diffiniedig; Darparu profiad busnes ymarferol i unigolion mewn lleoliad busnes / adwerthu canol tref; Gweithio mewn partneriaeth gyda landlordiaid sydd berchen ag adeiladau busnes gwag a'u cynorthwyo i gael cyllid i adnewyddu adeiladau nad ydynt yn bodloni'r safonau gofynnol ac wedi adfeilio; Cyfeirio cleientiaid at asiantaethau eraill sy'n gallu darparu cymorth ychwanegol / rhwydweithiau; Archwiliadau iechyd busnes ar adegau allweddol.
  • Regional area(s) to be covered by the project: All Convergence
  • Who will be the end beneficiaries?: Pobl ifanc ac unigolion sydd yn anweithgar yn economaidd
  • Who will be involved in delivering the project?: Menter a Busnes fydd y partner arweiniol gyda chefnogaeth gan ystod o randdeiliaid a phartneriaethau a nodwyd yn y Fframwaith Strategol ar gyfer Menter. Bydd hefyd cysylltiadau yn cael eu gwneud â Fframweithiau eraill lle mae cyfle i gyfatebolrwydd a gwerth ychwanegol.
  • What might be the outputs (activity measures) of the project?: Mentrau a gynorthwyir; Mentrau cymdeithasol a gynorthwyir; Unigolion a gynorthwyir i sefydlu menter newydd.
  • What might be the results of the project?: Swyddi gros a grëwyd; Mentrau a grëwyd; ESF Blaenoriaeth 2: Cyfranogwyr sydd yn ennill cymwysterau; Cyfranogwyr sydd yn mynd mewn i gyflogaeth a Chyfranogwyr sydd yn mynd mewn i addysg / dysgu ymhellach.
  • What would the project's impact be?: Swyddi net a grëwyd Mentrau net a grëwyd
  • What is the project estimated cost?: £4,000,000