Enw'r sefydliad: Menter a Busnes
Cyflwynwyd: 20/01/2012 gan elen.williams@menterabusnes.co.uk
- Busnes craidd y sefydliad: Datblygu economaidd ac ymgynghori busnes
- Beth fydd y prosiect yn ei wneud?: Nod y prosiect yw hybu adfywiad 5 canol tref ar draws ardal Gydgyfeirio sydd wedi gweld cynnydd yn nifer y siopau gwag / adeiladau busnes o ganlyniad i'r dirwasgiad economaidd. Byddem yn annog adnewyddiad y canol trefi drwy gefnogi ac annog hunan-gyflogaeth fel opsiwn gyrfa i bobl ifanc ac unigolion sy'n anweithgar yn economaidd a'u bod yn defnyddio adeiladau busnes gwag yng nghanol y trefi. Bydd y prosiect yn adeiladu ar lwyddiant cynllun yng Nghaergybi a weithredir mewn partneriaeth â Chymunedau yn Gyntaf, i hyrwyddo hunan-gyflogaeth trwy ganiatau i unigolion allu treialu eu syniadau busnes a'r Cynllun Siopau Gwag; sydd wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn nifer yr eiddo busnes gwag yng nghanol y dref yn ystod y 12 mis diwethaf. Bydd y prosiect yn cyflawni ei nod drwy'r amcanion canlynol: Codi ymwybyddiaeth am hunangyflogaeth fel opsiwn gyrfa; Darparu cymorth busnes un i un wedi’i deilwra er mwyn caniatau i unigolion profi eu syniadau busnes am gyfnod diffiniedig; Darparu profiad busnes ymarferol i unigolion mewn lleoliad busnes / adwerthu canol tref; Gweithio mewn partneriaeth gyda landlordiaid sydd berchen ag adeiladau busnes gwag a'u cynorthwyo i gael cyllid i adnewyddu adeiladau nad ydynt yn bodloni'r safonau gofynnol ac wedi adfeilio; Cyfeirio cleientiaid at asiantaethau eraill sy'n gallu darparu cymorth ychwanegol / rhwydweithiau; Archwiliadau iechyd busnes ar adegau allweddol.
- Ardaloedd gofodol y bydd y prosiect yn eu cynnwys: Holl Ardal Gydgyfeirio
- Pwy fydd y buddiolwyr yn y pen draw?: Pobl ifanc ac unigolion sydd yn anweithgar yn economaidd
- Pa ganlyniadau allai fod i'r prosiect?: Menter a Busnes fydd y partner arweiniol gyda chefnogaeth gan ystod o randdeiliaid a phartneriaethau a nodwyd yn y Fframwaith Strategol ar gyfer Menter. Bydd hefyd cysylltiadau yn cael eu gwneud â Fframweithiau eraill lle mae cyfle i gyfatebolrwydd a gwerth ychwanegol.
- Pa allbynnau (mesurau gweithgarwch) allai fod i'r prosiect?: Mentrau a gynorthwyir; Mentrau cymdeithasol a gynorthwyir; Unigolion a gynorthwyir i sefydlu menter newydd.
- Pa ganlyniadau allai fod i'r prosiect?: Swyddi gros a grëwyd; Mentrau a grëwyd; ESF Blaenoriaeth 2: Cyfranogwyr sydd yn ennill cymwysterau; Cyfranogwyr sydd yn mynd mewn i gyflogaeth a Chyfranogwyr sydd yn mynd mewn i addysg / dysgu ymhellach.
- Beth fyddai effaith y prosiect?: Swyddi net a grëwyd Mentrau net a grëwyd
- Beth yw'r amcangyfrif o gost y prosiect?: £4,000,000
