Skip to content

Pot arian cyfatebol – Blaenoriaeth 4 Cydgyfeirio ESF

Pot arian cyfatebol – Blaenoriaeth 4 Cydgyfeirio ESF

Mae Grant Arian Cyfatebol Creu’r Cysylltiadau newydd wedi cael ei greu. Bydd pob prosiect sy’n gwneud cais am gymorth Cronfeydd Strwythurol o dan Flaenoriaeth 4 Cydgyfeirio ESF yn gymwys i ymgeisio. Ni fydd ceisiadau o flaenoriaethau Cydgyfeirio eraill, na phrosiectau sy’n ymgeisio o dan Raglen Gystadleurwydd ESF yn gymwys.

Bydd y pot arian cyfatebol cyfyngedig hwn yn darparu uchafswm o £1 miliwn mewn cymorth mewn unrhyw un flwyddyn ariannol. Y lefel o arian cyfatebol sydd ar gael i bob ymgeisydd am brosiect fydd uchafswm o 25% tuag at gyfanswm eu costau prosiect cymwys.

Mae’n broses gystadleuol a chaiff pob cais ei asesu’n annibynnol o WEFO gan banel o swyddogion o Lywodraeth Cynulliad Cymru. I’r perwyl hwn mae’n dilyn y cynsail a’r fformat a sefydlwyd gan y Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir sy’n bodoli eisoes.

Gellir cael rhagor o fanylion a chopïau o’r dogfennau ymgeisio drwy gysylltu ewch i gwefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Rheswm dros greu’r pot arian cyfatebol bach, newydd hwn…

Nid yw arian cyfatebol canolog Llywodraeth Cynulliad Cymru tuag at brosiectau Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, y pot Arian Cyfatebol a Dargedir, wedi’i ordanysgrifio.

Mae nifer o brosiectau o dan Themâu 1 a 2 Blaenoriaeth 4 ESF ar gam asesu manwl y cynllun busnes (o broses ymgeisio WEFO) ac efallai y bydd agen arian cyfatebol penodol i gefnogi’r rhain a phrosiectau’r dyfodol. Y diben yw helpu i gyflawni agenda Gwella ac Effeithlonrwydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, ar draws y gwasanaethau cyhoeddus.

Dolenni perthnasol

Moderneiddio a Gwella Ansawdd ein Gwasanaethau Cyhoeddus - Cydgyfeirio ESF B4 T1&2