Skip to content

Datganiad o ddiddordeb

Datganiad o ddiddordeb

Nodwch: Ni ddylech fynd ati i gwblhau’r cais hwn cyn eich bod wedi darllen y Canllawiau i ddarpar noddwyr yn gyntaf.

Mae gofyn i ddarpar noddwr fodloni rhai amodau, a amlinellir isod, cynanfon Datganiad o ddiddordeb i WEFO; dylech wneud yn siŵr y gallwch gadarnhau a darparu tystiolaeth o’r rhain cyn mynd ati i wneud cais:

1.Rhaid i WEFO fod yn fodlon y bydd pob agwedd ar eich cynnig yn gymwys;felly, cyn gofyn am gael cyflwyno Datganiad o ddiddordeb, dylechsicrhau:


- eich bod yn gymwys, fel corff, i gael cymorth grant yr UE ar gyfer eich prosiect;
- y bydd yr holl weithgarwch sy’n cael ei gynnig yn eich prosiect yn weithgarwch cymwys; ac
- y bydd yr holl wariant a’r arian cyfatebol sydd o fewn cwmpas eich prosiect yn gymwys;

Cyn gwneud cais ar gyfer cyflwyno datganiad o ddiddordeb, gallwch wneud ynsiŵr ei fod yn gywir drwy ddarllen y Rheolau Cymhwysedd yn y Canllawiau  ar y wefan hon.

2. Mae cynllunio cydweithredol yn un o hanfodion pwysig cael eich datganiad o ddiddordeb wedi’i dderbyn –rhaid i chi fod yn barod i ddarparu tystiolaeth eich bod:


- wedi ystyried yr holl syniadau am brosiectau ar y wefan, sy’n ymdrin â maesymyrraeth tebyg i’r un sy’n destun eich cynnig chi,
- wedi trafod eich cynnig â chyrff eraill sy’n awyddus i weithredu’n yr un ffordd neu mewn ffordd debyg; ac
- wedi cael trafodaethau manwl â rhanddeithiaid allweddol a’u bod wedi sicrhau cyllid.

3.Bydd angen i chi fod yn hyderus y bydd y cyrff hynny a’r rhanddeiliaidallweddol yr ydych wedi cynnal trafodaethau â nhw yn hapus i roi cadarnhad i WEFO eu bod o blaid gweld eich datganiad o ddiddordeb yn cael ei gyflwyno.
 
Os mai dim ond yn rhannol y bydd unrhyw un o’r amodau hyn yn cael eu bodloni, dylech fod yn ymwybodol fod eich cais i gyflwyno’r datganiad yn debygol o gael ei ohirio neu ei wrthod gan WEFO. Felly, cyn mynd ati i gyflwyno’ch cais, gwnewch yn siŵr eich bod chi a’r rhanddeiliaid allweddol yn fodlon fod yr amodau wedi’u bodloni a bod modd darparu tystiolaeth i’r perwyl hwnnw.

Os ydych yn fodlon fod modd darparu’r dystiolaeth berthnasol, cliciwch ar y ddolen isod i gadarnhau eich bod am i Swyddog Datblygu Prosiect WEFO gysylltu â chi.

Cais i gofrestri eich datganiad o ddiddordeb

Wedyn, bydd Swyddog Datblygu’n cysylltu â chi i drafod eich cais ac, ar yr amod fod eich datganiad o ddiddordeb wedi’i dderbyn gennym, bydd yn eich helpu i gofrestru drwy gyfrwng WEFO Online.