Skip to content

Cyflwyno ceisiadau ar gyfer prosiectau

Cyflwyno ceisiadau ar gyfer prosiectau

Gall sefydliadau sydd â chynigion ar gyfer prosiectau sy'n gallu cyflenwi nodau ac amcanion y rhaglenni gyflwyno ceisiadau ar gyfer prosiectau, fel noddwr arweiniol posibl i WEFO, ar unrhyw adeg, gan ein bod yn gweithredu polisi agored ar gyfer cynigion prosiect.

Gwneud cais am gyllid (fel noddwr prosiect arweiniol)

  1. Gofalwch fod eich prosiect yn gymwys ar gyfer cyllid grant. Dylech ddarllen yr gwybodaeth tu mewn y adran yma, sydd yn gynnwys rheolau cymhwyster, y meini prawf ar gyfer prosiectau a'r broses ddethol a chanllawiau defnyddiol erail , yn ogystal ag cyfeirio ir canllawiau o dan 'Datblygu'ch Prosiect' a 'Chyflawni'ch Prosiect' ar y safle we yma
  2. Gofalwch hefyd fod eich prosiect yn cyd-fynd â'r Fframweithiau Strategol y cytunwyd arnynt. Mae’r rhain yn strategaethau gweithredol sy’n canolbwyntio ar y mathau o ymyriadau a fyddai'n cyflawni orau'r Blaenoriaethau yn y Rhaglenni Gweithredol.
  3. Mae cynllunio cydweithredol yn amod pwysig ar gyfer derbyn Datganiad o Ddiddordeb. Felly, bydd angen i chi fynd i’r adran Syniadau am Brosiectau ar y wefan hon, lle gallwch weld syniadau eraill yn ogystal â phostio eich syniad eich hun. Bydd hyn yn eich helpu i rannu a thrafod eich cynigion â sefydliadau, rhanddeiliaid, partneriaid a'r rhai sy’n darparu arian cyfatebol, a allai fod â diddordeb ynddynt.

Unwaith y byddwch wedi dilyn y camau uchod, gallwch wneud cais i gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb.

Unwaith y bydd WEFO wedi derbyn eich cais, bydd swyddog datblygu prosiect yn cysylltu â chi er mwyn eich arwain drwy gam cyntaf y broses ymgeisio, sef cyflwyno'r Datganiad o Ddiddordeb yn ffurfiol. Bydd hyn yn cynnwys cofrestru â Gwasanaeth Ar-lein WEFO, y system ryngweithiol sy'n caniatau i ymgeiswyr gyflwyno cais, gweld a rheoli'u grantiau yn ddiogel ar-lein.

Ar ôl cyflwyno'r Datganiad o Ddiddordeb, bydd WEFO yn cynnal asesiad cychwynnol yn erbyn y meini prawf ar gyfer dethol a blaenoriaethu ceisiadau am gyllid grant. Os yw'r asesiad yn ffafriol, bydd cyfle wedyn i symud at yr ail gam - cyfle i gyflwyno cais mwy cynhwysfawr a manwl a fydd yn cael ei asesu'n llawn gan WEFO.

Cronfa Arian Cyfatebol a Dargedir

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sefydlu'r Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir i ddarparu arian cyfatebol canolog i raglenni'r Cronfeydd Strwythurol Ewroepaidd 2007-2013.

Cronfa pan fetha popeth arall yw'r Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir, felly bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod wedi cymryd pob cam posibl i gael arian cyfatebol o ffynonhellau eraill cyn troi at y TMF.

Dolenni perthnasol

Gall sefydliadau yng Nghymru elwa ar arian Ewropeaidd drwy wneud cais i gyflenwi gweithgareddau'r prosiectau a ariennir gan yr UE.
Mae'r timau'n darparu cymorth, gwybodaeth a chyngor yn rhad ac am ddim i unrhyw un yng Nghymru sydd am fanteisio ar Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd