Cyflwyno ceisiadau ar gyfer prosiectau
Gwneud cais am gyllid (fel noddwr prosiect arweiniol)
- Gofalwch fod eich prosiect yn gymwys ar gyfer cyllid grant. Dylech ddarllen yr gwybodaeth tu mewn y adran yma, sydd yn gynnwys rheolau cymhwyster, y meini prawf ar gyfer prosiectau a'r broses ddethol a chanllawiau defnyddiol erail , yn ogystal ag cyfeirio ir canllawiau o dan 'Datblygu'ch Prosiect' a 'Chyflawni'ch Prosiect' ar y safle we yma
- Gofalwch hefyd fod eich prosiect yn cyd-fynd â'r Fframweithiau Strategol y cytunwyd arnynt. Mae’r rhain yn strategaethau gweithredol sy’n canolbwyntio ar y mathau o ymyriadau a fyddai'n cyflawni orau'r Blaenoriaethau yn y Rhaglenni Gweithredol.
- Mae cynllunio cydweithredol yn amod pwysig ar gyfer derbyn Datganiad o Ddiddordeb. Felly, bydd angen i chi fynd i’r adran Syniadau am Brosiectau ar y wefan hon, lle gallwch weld syniadau eraill yn ogystal â phostio eich syniad eich hun. Bydd hyn yn eich helpu i rannu a thrafod eich cynigion â sefydliadau, rhanddeiliaid, partneriaid a'r rhai sy’n darparu arian cyfatebol, a allai fod â diddordeb ynddynt.
Unwaith y byddwch wedi dilyn y camau uchod, gallwch wneud cais i gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb.
Unwaith y bydd WEFO wedi derbyn eich cais, bydd swyddog datblygu prosiect yn cysylltu â chi er mwyn eich arwain drwy gam cyntaf y broses ymgeisio, sef cyflwyno'r Datganiad o Ddiddordeb yn ffurfiol. Bydd hyn yn cynnwys cofrestru â Gwasanaeth Ar-lein WEFO, y system ryngweithiol sy'n caniatau i ymgeiswyr gyflwyno cais, gweld a rheoli'u grantiau yn ddiogel ar-lein.
Ar ôl cyflwyno'r Datganiad o Ddiddordeb, bydd WEFO yn cynnal asesiad cychwynnol yn erbyn y meini prawf ar gyfer dethol a blaenoriaethu ceisiadau am gyllid grant. Os yw'r asesiad yn ffafriol, bydd cyfle wedyn i symud at yr ail gam - cyfle i gyflwyno cais mwy cynhwysfawr a manwl a fydd yn cael ei asesu'n llawn gan WEFO.
Cronfa Arian Cyfatebol a Dargedir
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sefydlu'r Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir i ddarparu arian cyfatebol canolog i raglenni'r Cronfeydd Strwythurol Ewroepaidd 2007-2013.Cronfa pan fetha popeth arall yw'r Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir, felly bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod wedi cymryd pob cam posibl i gael arian cyfatebol o ffynonhellau eraill cyn troi at y TMF.
