Skip to content

Gwneud cais am gyllid

Gwneud cais am gyllid

Prosiect RISE

Mae WEFO wedi ymrwymo i sicrhau bod arian Ewropeaidd yn cyrraedd y prosiectau hynny a fydd yn sicrhau'r buddiannau gorau i Gymru, gan greu swyddi a thwf cynaliadwy.

Rydym yn gweithredu polisi agored ar gyfer cynigion prosiect oddi wrth y sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector - gan eu hannog i ddwyn ymlaen brosiectau sy'n gallu cyflawni ar nodau ac amcanion y rhaglenni.

Gall sefydliadau elwa ar arian Ewropeaidd o dan raglenni Cydgyfeirio a Chystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol 2007-2013 yng Nghymru drwy nifer o ffyrdd, a bydd yr adran hon o'r wefan yn rhoi cyngor ac arweiniad i chi ar gyfleoedd o'r fath.

Gall sefydliadau gyflwyno ceisiadau ar gyfer prosiectau, fel noddwr arweiniol posibl, yn uniongyrchol i WEFO, ac mae canllawiau cam wrth gam ar gael ar sut i wneud cais.

Gall sefydliadau hefyd elwa ar arian Ewropeaidd fel partneriaid mewn prosiectau neu drwy wneud cais i gyflenwi gweithgareddau'r prosiectau a gymeradwywyd mewn ymateb i wahoddiadau neu hysbysiadau a gyhoeddwyd ar wefan GwerthwchiGymru Llywodraeth Cymru.

Dolenni perthnasol

Mae'r timau'n darparu cymorth, gwybodaeth a chyngor yn rhad ac am ddim i unrhyw un yng Nghymru sydd am fanteisio ar Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd
Rhoi Arian Cyfatebol i raglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2007–2013
Am ymholiadau ar y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru a WEFO Arlein cysylltwch a Llinell Gymorth WEFO.